Mae gwaddol Bioddiogelwch am OES (B4L) yn welliant mewn arferion bioddiogelwch y gellir ei fesur ar draws bob un o 42 o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig y DU a neilltuwyd ar gyfer bridio adar môr a bod y poblogaethau hyn o adar môr sy’n arwyddocaol yn fyd-eang yn cael eu gwarchod yn well bellach rhag bygythiad ysglyfaethwyr mamalaidd ymledol fel llygod mawr a mincod, ond ni allwn laesu dwylo.
Tra ar y tir, ychydig iawn o amddiffyniad sydd gan adar môr yn erbyn ysglyfaethwyr mamalaidd, oherwydd maen nhw’n tueddu i ddewis safleoedd nythu sy'n anhygyrch i'r ysglyfaethwyr hyn, yn aml ynysoedd alltraeth. Pan gaiff yr ysglyfaethwyr hyn eu cyflwyno ar ynysoedd adar môr, maen nhw’n dinistrio nythfeydd adar môr yr ynysoedd, yn anffodus mae’n hysbys eu bod yn cyrraedd ynysoedd newydd yn rheolaidd. Yn ystod B4L yn unig, cafodd 25 o achosion o ymledu eu riportio ar yr ynysoedd a oedd yn rhan o’r prosiect, yn amrywio o longddrylliadau a gollyngiadau cargo i ysglyfaethwyr ymledol a ddarganfuwyd ar yr ynys neu'n neidio i'r lan o longau.
Fe wnaeth Bioddiogelwch am OES hyfforddi’r tîm cyntaf o gŵn canfod cadwraeth i gefnogi bioddiogelwch ar ynysoedd adar môr y DU drwy chwilio am lygod mawr. Hyfforddwyd Jinx fel rhan o’r prosiect Bioddiogelwch am OES i chwilio am lygod ffyrnig (Rattus norvegicus). Erbyn hyn, mae Jinx yn rhan annatod o Bioddiogelwch i Gymru. Mae gan gŵn 300 miliwn o dderbynyddion arogli o’i gymharu â’r 6 miliwn sydd gennym ni, felly’n llawer gwell wrth ganfod cnofilod na ni. Yn hytrach na dibynnu ar dechnegau goruchwylio goddefol yn unig, sy'n gofyn i'r ysglyfaethwr ymledol ddod i gysylltiad â'r teclyn canfod a ddefnyddiwn a rhyngweithio ag ef , mae gennym bellach declyn canfod gweithredol yn ein pecyn cymorth sy'n ein galluogi i gwmpasu ardal fwy a chael mwy o hyder yn ein canlyniadau – gan newid pethau go iawn!
At Biosecurity for LIFE we are focused primarily on 42 island special protection areas (SPAs) in the UK that are designated for breeding seabirds.
As indicated on the map, these islands are spread around the coastline of the UK including parts of England, Wales, Scotland and Northern Ireland.
Mae adar môr o dan bwysau wrth nifer o fygythiadau, gan gynnwys:
Mae nifer o’r pwysau hyn yn cael eu creu gan bobl ac mae gennym gyfrifoldeb i liniaru'r pwysau. I gael cyfle mewn byd sy'n newid, mae angen i diroedd bridio adar môr barhau’n rhydd rhag mamaliaid rheibus, ac mae gan unrhyw un sy’n teithio i ynys adar môr neu yng nghyffiniau ynys adar môr warchodedig, gyfrifoldeb i wneud gwiriadau sylfaenol cyn ymweld ac i weithredu mesurau bioddiogelwch.
Mae poblogaethau adar môr wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac o ganlyniad, ni chyflawnwyd ‘Statws Amgylcheddol Da’ o dan Strategaeth Forol y DU. Mae adar môr yn byw’n hir, yn araf cyn cyrraedd oedran bridio ac mae oedolion yn magu nifer gymharol fach o gywion bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu, pan fydd oedolion yn marw mewn niferoedd mawr, ni all y poblogaethau fridio’n ddigon cyflym i wneud iawn am y colledion ac mae’r rhywogaethau’n wynebu gostyngiad mawr.
Drwy’r prosiect B4L (2018-2023), mae cymunedau ynysoedd, busnesau, rheolwyr, tirfeddianwyr, mudiadau cadwraeth, cyrff statudol a gwirfoddolwyr yng Nghymru wedi gweithredu gwiriadau goruchwyliaeth a mesurau bioddiogelwch ar draws Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ynysoedd adar môr. Ymgysylltodd B4L â dros 30 miliwn o bobl ond mae dal gwaith i’w wneud i ymwreiddio ymwybyddiaeth o fioddiogelwch ac i helpu pobl i gymryd camau bach ond hanfodol i helpu i warchod ein adar môr anhygoel.
Mae angen eich llais arnom ni!
Côr o wylogod yn esgyn yng ngwynt y clogwyni, ehediad gosgeiddig adar drycin y graig, a thyllau clwydo a nythu adar drycin yn dod yn fyw gyda’r nos – mae ynysoedd adar môr yng Nghymru yn llawn bywyd ac eto mae’r gwarchodfeydd gwerthfawr hyn yn wynebu bygythiad tawel: ysglyfaethwyr ymosodol fel llygod mawr. Er mwyn cadw'r ynysoedd hyn yn ddiogel, mae angen eich llais arnom ni! Rhannwch eich barn mewn arolwg cyflym (5 munud) am fesurau bioddiogelwch ar yr ynysoedd gwarchodol hyn. Drwy rannu eich barn a'ch gwybodaeth, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio'r ffordd yr ydym yn gwarchod yr adar mawreddog hyn. Rhannwch eich barn yma. Diolch!